Y Consortiwm
CONSORTIWM GWOBRAU ARWAIN CYMRU®
Ein Gweledigaeth:
Cyfrannu at wneud Cymru’n wlad lle caiff arweinyddiaeth dda ei hedmygu, ei dathlu, ei hefelychu a’i gwerthfawrogi gan bawb fel sbardun allweddol ar gyfer twf economaidd.
Ein Cenhadaeth:
Hyrwyddo arweinyddiaeth dda a dylanwadu ar ddatblygu arweinyddiaeth trwy adnabod, cydnabod a dathlu unigolion sydd, trwy eu harweinyddiaeth, yn cyfrannu at ffyniant Cymru.
Ein Diben:
Datblygu a chynnal Gwobrau arweinyddiaeth blynyddol sy’n destun trafod, sy’n cael sylw parod gan y cyfryngau, sy’n annog ac yn denu enwebiadau a noddwyr, gan greu rhwydwaith o unigolion sy’n enghreifftiau o arweinyddiaeth dda yng Nghymru.
Ein Gwerthoedd:
Dyma ein gwerthoedd datganedig
Arweinyddiaeth: mae’r Gwobrau’n ysbrydoli ac yn cymell eraill i efelychu’r rheiny sy’n derbyn gwobrau
Arloesol: mae’r Gwobrau’n torri tir newydd o ran cysyniad a chyflwyno
Ansawdd: mae pob agwedd ar y Gwobrau’n dangos proffesiynoldeb
Syml: mae’r Gwobrau’n hawdd eu deall a’u cyrchu
Cynaliadwyedd: mae’r Gwobrau’n ddigwyddiad blynyddol, sy’n cael eu cynnal flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Rydym hefyd wedi cytuno dylai’r Gwobrau ateb y nodweddion canlynol: Rhychwantu Cymru gyfan; traws-sector; amrywiol; amlygu arweinyddiaeth ar bob lefel mewn sefydliad; manteisio ar ddwyieithrwydd
Credwn:
Mai Arweinyddiaeth yw sbardun allweddol unrhyw dîm, busnes neu sefydliad llwyddiannus ac felly economi Cymru yn y pen draw
CONSORTIWM GWOBRAU ARWAIN CYMRU® 2019
ACCA Cymru Wales
CBI Cymru
FSB Cymru
Hilton Caerdydd
Learning Pathways Cymru
Wales Council for Voluntary Action (WCVA)
